Rheoliadau Gwell
Beth yw Rheoliadau Gwell?
Mae Rheoliadau yn y DU wedi helpu i ddiogelu - ymhlith pethau eraill - iechyd a diogelwch rhagorol, yr isafswm cyflog, rhybuddion clir ar fwyd ac amgylchedd glanach. Ond os nad yw unigolion a sefyliadau yn deall pwrpas y rheoliad, neu os yw`r gost yn fwy na`r manteision, yna gellir colli hyder mewn rheoliadau.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymrwymedig yn gadarn i egwyddorion rheoliadau da ac i weithredu polisïau da i gyflawni rheoliadau cymesurol, rheolaidd, syml ac wedi’i dargedu, sy’n cyflawni ei hamcanion polisi heb osod baich diangen ar fusnesau, Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymrwymedig yn gadarn i egwyddorion rheoliadau da ac i weithredu polisďau da i gyflawni rheoliadau cymesurol, rheolaidd, syml ac wedi’i dargedu, sy’n cyflawni ei hamcanion polisi heb osod baich diangen ar fusnesau, y trydydd sector neu’r sector cyhoeddus.
Beichiau gweinyddol - torri lawr ar waith papur
Rydym wedi mesur y faich gweinyddol (486KB) y mae rheoliadau`r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu gosod ar fusnesau ac rydym wedi pennu targed i leihau hyn 25 y cant erbyn 2010. I gyflawni hyn rydym yn datblygu rhaglen o weithrediadau symleiddio.
Mae Swyddfa'r Cabinet wedi cynhyrchu crynodeb technegol
o'r Ymarfer Mesur Beichiau Gweinyddol (93KB)
.
Symleiddio
Mae ein cynigion i leihau baich gweinyddol, a chynigion Symleiddio eraill i‘w gweld yn ein Cynlluniau Symleiddio
- Darllenwch Gynllun Symleiddio 2007 (182KB)

- Darllenwch Gynllun Symleiddio 2006 (404KB)

rydym yn awyddus i glywed unrhyw awgrymiadau gan ein rhanddeilaid ar sut y gallwn symleiddio ein rheoliadau presennol. Mae’r Gweithredaeth Gwell Rheoliadau yn Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio wedi sefydlu gwefan lle y gallwch gyfrannu eich syniadau ar sut y gellir symleiddio rheoliadau.
Asesiadau Effaith
Mae Asesiadau Effaith yn allweddol i gyflenwi rheoliadau gwell. Caiff yr asesiadau hyn eu llunio drwy gynnal ymgynghoriad gyda`n rhanddeiliad.
Mae gan reoliadau sy’n effeithio ar fusnes dyddiadau dechrau cyffredin wrth i ddeddfwriaeh gymryd effaith. Mae’r rhain yn ddau ddyddiad bob blwyddyn, sef 6 Ebrill a 1 Hydref.
Bwriad dyddiadau dechrau cymwys yw helpu bunsesau a rhanddeiliad gynllunio a chyllidebu ar gyfer mesurau rheoliadau newydd.
Grŵp Rhanddeiliaid Rheoleiddio Gwell
Mae’r Adran wedi diwygio ei Grŵp Rhanddeiliaid Rheoleiddio Gwell i helpu i fynd i’r afael â’r agenda rheoleiddio gwell sy’n datblygu. Cadeirydd y Grŵp yw Mike O’Brien sef Gweinidog Rheoleiddio Gwell yr Adran.
Pwrpas y Grŵp yw gweithredu fel ffrind beirniadol i’r Adran, gan weithio gyda’r Adran ar faterion Rheoleiddio Gwell.
Hoffai’r Adran ddiolch i bob aelod o’r Grŵp Rhanddeiliaid blaenorol am eu cymorth.