Y Gwir Anrhydeddus James Purnell AS
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau 
Penodwyd James Purnell fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ym mis Ionawr 2008 yn dilyn ymddiswyddiad Peter Hain.
Yn flaenorol roedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, swydd a gafodd ym mis Mehefin 2007, fel rhan o Gabinet cyntaf Gordon Brown. Cyn hynny roedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yn flaenorol, roedd yn Is- Ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ers mis Mai 2005, a chyn hynny, Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ruth Kelly AS yn swyddfa’r Cabinet. Ymunodd â’r Llywodraeth fel Chwip Cynorthwyol ym mis Rhagfyr 2004.
Cyn ymuno â’r Senedd yn 2001, roedd yn Bennaeth Cynllunio Corfforaethol gyda’r BBC (1995-1997) ac yna gweithiodd fel cynghorwr arbennig ar ddiwylliant, cyfryngau, chwaraeon a’r economi a’r economi gwybodaeth i’r prif Weinidog ar y pryd Tony Blair, rhwng 1997 a 2001.
Ganwyd yn Llundain yn 1970 ac aeth i Goleg Balliol, Rhydychen.