About us

Jonathan Shaw AS

Gweinidog dros Bobl Anabl a De Ddwyrain Lloegr Jonathan Shaw

Penodwyd Jonathan Shaw yn Weinidog dros Bobl Anabl ym mis Hydref 2008 yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Cyn hyn roedd yn Is-Ygrifennydd Seneddol yn Defra lle'r oedd ei gyfrifoldebau'n cwmpasu môr a physgodfeydd, tirwedd, dyfrffyrdd mewndirol, materion gwledig ac ansawdd yr amgylchedd lleol.

Mae hefyd yn weinidog rhanbarthol ar gyfer y De-ddwyrain. Yn y rôl hon mae'n cynrychioli buddiannau rhanbarthol wrth lunio polisïau llywodraeth ganolog, yn gweithredu fel pencampwr i'r rhanbarth ac yn hwyluso ffordd gydgysylltiedig o weithio ar draws y llywodraeth.

Yn ystod ei yrfa yn Nhy'r Cyffredin mae Jonathan wedi bod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ruth Kelly fel Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau 2006-06. Roedd hefyd yn Chwip Llywodraeth Cynorthwyol yn 2006-07 cyn ymuno â Defra. Mae Jonathan hefyd wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Dethol Archwilio Amgylcheddol Ty'r Cyffredin rhwng 1997 a 2001 cyn ymuno â'r Pwyllgor Dethol Addysg a Sgiliau o 2001 i 2005.

Cyn hynny, gweithiodd Jonathan gyda Chyngor Swydd Gaint ym maes amddiffyn plant, mabwysiadu, maethu a phlant yn gadael gofal. Daeth Jonathan yn gynghorydd lleol yn 1993 gan gynrychioli Chatham ac Aylesford.

Ar ôl cwblhau cwrs mewn gofal cymdeithasol a gweithio fel cynorthwyydd gofal i oedolion ag anableddau dysgu, cymhwysodd Jonathan fel gweithiwr cymdeithasol yn 1990. Ar ôl mynd i ysgolion lleol y wladwriaeth ei swydd gyntaf oedd casglwr ffrwythau ar ffermydd Caint.

Ganwyd Jonathan yn Aylesford yn 1966 ac mae'n briod gyda dau o blant oed ysgol. Mae'r teulu'n byw yn Snodland.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.