Y Gwir Anrhydeddus Tony McNulty AS
Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth, Diwygio lles a Llundain 
Etholwyd Tony McNulty i'r Senedd yn Etholiad Cyffredinol mis Mai 1997. Gweithiodd fel Chwip rhwng 1999 a 2002, yn dilyn cyfnod fel Ysgrifennydd Preifat Seneddol i David Blunkett. Yna penodwyd McNulty yn Is-Ysgrifennydd Seneddol i Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb am adnewyddu cymdogaethau , tai a chynllunio.
Symudwyd ef i'r Adran Drafnidiaeth ym mis Mehefin 2003 fel Is-Ysgrifennydd Seneddol gyda chyfrifoldeb am hedfan, trafnidiaeth leol, a Llundain, ac fe'i dyrchafwyd yn Weinidog Gwladol gyda chyfrifoldeb am Reilffyrdd a Llundain ym mis Medi 2004.
Symudodd Tony i'r Swyddfa Gartref ar 9 Mai 2005 fel Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo, yn dilyn ad-drefnu'r etholiad cyffredinol. Ym mis Mai 2006 newidiodd ei bortffolio yn y Swyddfa Gartref i gyfrifoldeb dros blismona a throsedd, diogelwch a gwrthderfysgaeth. Ym mis Gorffennaf 2007, daeth yn Gynghorydd Cyfrin. Yn ystod ad-drefniant Gordon Brown ar 3 Hydref 2008 symudodd Tony i fod yn Weinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gweinidog Llundain, gan fynychu'r Cabinet.
Cyn dod yn AS roedd yn arweinydd grwp Llafur ar gyngor Harrow ac yn uwch ddarlithydd mewn Ymddygiad Sefydliadol, ym Mhrifysgol Gogledd Llundain o 1983 i 1997. Mae Tony yn briod â Christine Gilbert (CBE).