Canolfan adnoddau

Ymgyrchoedd

Mae`r dudalen hon yn cynnwys manylion am ymgyrchoedd presennol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

O 27 Hydref 2008 bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail analluogrwydd i gwsmeriaid newydd.

Llawn Bywyd

O dan y faner Llawn Bywyd, mae’r Llywodraeth a grwpiau cefnogol eraill yn ymgymryd â rhaglen eang o weithgareddau i godi proffil y materion ynghylch pobl hyn a’n cymdeithas sy’n heneiddio.

Employ ability

Mae Employ ability ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sydd am wybod sut y gallant ddefnyddio talent a sgiliau pob anabl a’r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

Yn Gadarn o Blaid Oedran

Yn hyrwyddo manteision gweithlu o oedran cymysg.

Y Lwfans Tai Lleol

Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai i denantiaid sy'n rhentu llety gan landlord preifat. Caiff ei gyflwyno yn genedlaethol o 7 Ebrill 2008.

Lladron budd-daliadau - Rydym yn cau'r rhwyd

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cymryd twyll budd-daliadau o ddifrif. Er bod y rhan fwyaf o bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn onest, mae’r rhai sy’n dwyn budd-daliadau yn dwyn o bocedi trethdalwyr deddfgadwol. Yn 2007-08 dygwyd tua £800 miliwn o arian cyhoeddus gan ladron budd-daliadau, dyna pam rydym yn benderfynol o’i dal.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a chi

Mae`r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn berthynasol i bob cyflogwr a phawb sy`n darparu gwasanaeth i`r cyhoedd, ac eithrio`r Lluoedd Arfog.

Mae`n gyfraith a gynlluniwyd i ddod â chamwahaniaethu yn erbyn pobl anabl i ben. Mae hefyd yn diwallu anghenion busnesau bach a chanolig eu maint, gan ei bod yn ddigon hyblyg i ystyried amgylchiadau unigol eich busnes.

Gwyddom nad oes llawer o amser gennych, felly mae`r wefan hon yn canolbwyntio ar y pethau pwyiscaf y bydd yn rhaid i chi eu gwybod am y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA). Fe`i bwriedir fel canllaw gyflym ac nid yw`n ddatganiad awdurdodol o`r gyfraith.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.