Hawlfraint y Goron

Hawlfraint y Goron

Mae’r deunyddiau sydd ar y wefan hon yn destun diogelwch hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Gellir atgynhyrchu’r deunydd sydd o dan ddiogelwch hawlfraint y Goron yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb geisio caniatâd penodol. Mae hyn ar yr amod y caiff y deunydd ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn modd difrïol neu mewn cyd-destun camarweiniol. Os caiff y deunydd ei gyhoeddi neu’i ddosbarthu i eraill, mae’n rhaid cydnabod y ffynhonnell a’r statws o ran hawlfraint.

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd sydd o dan ddiogelwch hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir ei fod yn destun hawlfraint trydydd parti. Mae’n rhaid ceisio awdurdod i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Am ragor o wybodaeth am bolisi hawlfraint y Goron ac am drwyddedu hawlfraint y Goron, ewch i `Nodiadau Arweiniad HMSO – Cyhoeddi a Hawlfraint” a gyhoeddir gan HMSO ac Argraffwr y Frenhines yn yr Alban.

Ymwadiad

Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw’r wefan hon, ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodol o’r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y tudalennau. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.

Ein polisi e-bost

Mae cyfleusterau e-bost DWP yn fodd o anfon ymholiadau cyffredinol ymlaen. Nid ydynt yn llwybr diogel ar gyfer anfon gwybodaeth bersonol. Yn anffodus, ni all DWP ohebu’n hir ag unigolion drwy e-bost. Fodd bynnag, gellir parhau i drafod drwy gyfryngau eraill, os oes angen.

Mapiau – darperir gan Multi Media Mapping

Mae’r ddelwedd fap a ddangosir yn cynnwys gwybodaeth o Net-Map yr Arolwg Ordnans ac mae wedi’i diogelu gan hawlfraint y Goron o dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Mae cynhyrchion yr Arolwg Ordnans yn cynnwys technegau bysbrintio a diogelu codau. Mae’n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig priodol gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer pob defnydd arall a/neu bob copi a wneir. Mae gennych hawl i wneud un domen sgrin o’r ddelwedd fap ar y dudalen at ddefnydd personol. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron a gallai arwain at eich erlyn a/neu at achos sifil. Ysgrifennwch neu anfonwch ffacs at Ordnance Survey Licenced Sales, Romsey Road, Southampton, SO16 4GU, ffacs (023) 8079 2535.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.