Gallwch gael cyngor a gwybodaeth gan elusennau, sefydliadau a grwpiau cymorth ac adrannau'r llywodraeth. Rydym wedi rhestru rhai sy'n rhoi gwybodaeth i gyflogwyr a rhai sy'n rhoi gwybodaeth am anableddau a chyflyrau penodol.
Gwybodaeth i gyflogwyr
Ar wefan Directgov gallwch gael manylion cyswllt defnyddiol ar gyfer pobl anabl a gwybodaeth am gymorth cyflogaeth ar gyfer pobl anabl.
Technoleg hygyrch | Mae amrywiaeth o sefydliadau, elusennau a grwpiau cymorth yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl anabl am dechnoleg hygyrch | |
Cymdeithas Pobl Broffesiynol Anabl | Ei nod yw gwella addysg adsefydlu, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael i bobl anabl, ac i'w helpu i gymryd rhan lawn ym mywyd bob dydd cymdeithas. | |
Cyngor Dinas Bradford - Menter Abl i Weithio | Gwasanaeth cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl anabl a phobl ag iechyd gwael yn Bradford. | www.bradford.gov.uk/health_well-being_and_care/disability/work-able/ |
Breakthrough UK | I gyflogwyr a phobl anabl yn Lerpwl a Manceinion. | |
Cymdeithas Cyflogaeth wedi’i Chynnal Prydain (BASE) | Mae BASE yn sefydliad aelodaeth ar gyfer asiantaethau cyflogaeth wedi’i chynnal a busnesau wedi'u cynnal yn y DU. Mae'n rhoi ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau i'w aelodau ac eraill sydd â diddordeb mewn cyflogaeth wedi’i chynnal. | |
Cyswllt Busnes | Cyngor ar recriwtio a chyflogi pobl anabl. | |
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd | Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn gyfraith sydd wedi'i chynllunio i ddod â gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl i ben. Mae hefyd yn diwallu anghenion busnesau bach a chanolig gan ei bod yn ddigon hyblyg i i ystyried amgylchiadau unigol eich busnes. | |
Fforwm y Cyflogwyr ar Anabledd | Mae'n cynrychioli sefydliadau sy'n cyflogi tua 20% o weithlu'r DU. Mae'n sefydliad di-elw sy'n canolbwyntio ar fater anabledd yn y gweithle. | |
Cyfleoedd Cyflogaeth | Mae'n helpu pobl anabl i ddod o hyd i waith a'i gadw. Mae'n rhoi cymorth a chyngor i gyflogwyr am anabledd a materion cyflogaeth. | |
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol | Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, gan weithio tuag at ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol a meithrin cydberthnasau da, gan sicrhau y caiff pawb gyfle teg i gymryd rhan mewn cymdeithas. | |
Partneriaeth Fairplay | Mae Partneriaeth Fair Play Swydd Efrog a Humber yn sefydliad di-elw sy'n gweithio tuag at brif-ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. | |
Greater Manchester Coalition of Disabled People | Mae'n ymgyrchu dros hawliau pobl anabl drwy roi gwybodaeth, cyngor a threfnu digwyddiadau. | |
Cymorth Anabledd y Ganolfan Byd Gwaith | Beth gall Cymorth Anabledd y Ganolfan Byd Gwaith ei wneud i mi fel cyflogwr? | Gwasanaethau anabledd ar gyfer cyflogwyr - ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith |
Sefydliad Leonard Cheshire | Newid agweddau tuag at anabledd a gwasanaethu pobl anabl. | |
MINDFUL EMPLOYER | Mae MINDFUL EMPLOYER® yn fenter sydd wedi'i hanelu at gynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y gwaith a rhoi cymorth i fusnesau wrth recriwtio a chadw staff. | |
Ymddiriedolaeth Papworth | Mae'r ymddiriedolaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb, annibyniaeth a dewis i bobl anabl. | |
Remploy | Mae Remploy yn cynnig arbenigedd unigryw ac ymarferol ar bob agwedd o integreiddio pobl anabl, unigolion â chyflwr iechyd a'r rheini sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i waith yn y gweithle, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau cynghori i'ch helpu i ddatblygu a gweithredu arfer gorau yn y maes hwn. | |
Ymddiriedolaeth Shaw | Mae'n rhoi hyfforddiant a chyfleoedd gweithio ar gyfer pobl sydd ag anfantais yn y farchnad lafur oherwydd anabledd, iechyd gwael neu amgylchiadau cymdeithasol eraill. | |
Cysylltiadau Gwaith | Darparwr cyflogaeth sy'n helpu pobl yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Prydain i ddychwelyd i'r gwaith. |
Cysylltiadau i wefannau allanol
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Ni ddylid dehongli rhestru gwefan neu gyswllt i wefan allanol fel ardystiad o unrhyw fath ac nid ydym yn atebol am y cynnwys mewn unrhyw fodd. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes rheolaeth gennym dros argaeledd y tudalennau hyn.
