Ffilm teledu byr (fersiwn 60 eiliad)

Gweledol Clyw
Rydym yn gweld tîm argyfwng yn delio ag argyfwng mewn uned damweiniau mewn ysbyty. Lleisio: Rydych yn rhedeg un o adrannau ddamweiniau prysuraf Prydain.

Mae claf sydd wedi cael trawiad ar y galon yn cael ei gario i mewn a’i drosglwyddo i wely’r ysbyty gan y tîm argyfwng.

Lleisio:  Mae eich tîm 2 aelod o staff i lawr.

Mae’r camera yn symud o gwmpas i ddangos parafeddygon a nyrsys yn trin y claf.

Lleisio:  Rydych angen rhywun i ddod i mewn a gwneud penderfyniadau y mae bywyd yn dibynnu arnynt yn bwyllog a phenderfynol.

Lleisio: Rydych wedi dod o hyd i ymgeisydd brwdfrydig a thalentog sydd a’r holl alluoedd rydych yn chwilio amdanynt.

Mae’r tîm yn sefyll i un ochr tra bod meddyg yn ceisio adfywio’r claf.

Lleisio: Ond mae ganddynt hanes o broblemau iechyd meddwl yn cynnwys cyfnodau o iselder ysbryd difrifol.

Mae’r disgwyl yn achosi tyndra tra bod y tîm yn edrych allan am arwyddion allweddol. Lleisio: Felly a fyddech chi’n rhoi’r swydd iddynt?
Torri ffwrdd i gael golwg fanwl ar fonitor calon. Lleisio: Os na fyddech, llongyfarchiadau. Rydych newydd wrthod Florence Nightingale.
Mae’r meddyg yn cymryd cam yn ôl ac yn rhoi gwên lydan. Meddyg: Gwych! Gwych! Rydym wedi ei gael.

Diwedd y llun

DWP logo

Lleisio: Peidiwch â gadael i’ch agweddau tuag at iechyd meddwl eich atal rhag gwneud y gorau o dalentau pobl.