Rhyddid Gwybodaeth
- Rhyddid Gwybodaeth
- I bwy mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys?
- Rwy’n byw yn yr Alban. Ydy`r Ddeddf yn dal yn gymwys i fi?
- Beth yw’r Hawliau Mynediad?
- A gaf i ofyn am wybodaeth amdanaf i fy hun o dan Ryddid Gwybodaeth?
- Sut ydw i’n gwneud cais am wybodaeth?
- Â phwy dylwn i gysylltu i ofyn am wybodaeth?
- Am ba mor hir dylwn i aros am ateb?
- Allwch chi wrthod rhoi’r wybodaeth rwy`n gofyn amdani i mi?
- Beth fydd yn digwydd os na rowch chi’r wybodaeth y mae ei heisiau arnaf i mi?
- Ai dyna ddiwedd y mater?
- Oes terfyn amser i chi ddod yn ôl ata i?
- Â phwy ydw i’n cysylltu i ofyn am adolygiad?
- Beth os ydw i`n dal yn anfodlon?
- Rhagor o wybodaeth
- Pecyn Sylfaenol Rhyddid Gwybodaeth DWP (374KB)
Trosolwg ar gyfer staff yr Adran Gwaith a Phensiynau o’r egwyddorion y dylent eu hystyried wrth ymdrin â cheisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Cysylltiadau perthnasol:
- Gwybodaeth a ryddhawyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
- Bydd y darganfyddwr gwybodaeth yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth gan DWP sydd ddim ar gael ar y wefan hon
Rhyddid Gwybodaeth
Cafodd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 30 Tachwedd 2000.
Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i unrhyw berson, o unrhyw genedligrwydd, yn unrhyw le yn y byd, wneud cais am wybodaeth swyddogol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Mae’r hawl hon yn amodol ar eithriadau penodol.
Dechreuodd yr hawliau mynediad hyn ar 1 Ionawr 2005.
Mae ymagwedd DWP tuag at ryddhau gwybodaeth yn un gadarnhaol; mae’n seiliedig ar y ragdybiaeth y caiff gwybodaeth ei rhyddhau fel rheol, os nad yw wedi`i heithrio’n benodol o dan y Ddeddf a lle na fyddai ei datgelu er lles y cyhoedd. Caiff pob cais a ddaw i DWP ei drin ar ei ragoriaethau a chaiff pob cais ei asesu yn ôl meini prawf Rhyddid Gwybodaeth.
I bwy mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys?
Mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth, yr heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion ac ysbytai/meddygfeydd ayb. Yn achos DWP, bydd hyn yn gymwys i’r adran gyfan, gan gynnwys ei Chyrff Cyhoeddus Anadrannol.
Mae i Ryddid Gwybodaeth gwmpas llawer ehangach na’r Cod Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth y Llywodraeth (Cod Llywodraeth Agored), sydd ar waith ers 1994 ac ond yn berthnasol i gyrff a oedd yn dod o dan gylch gorchwyl y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (Ombwdsmon). Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd dros 140,000 o gyrff yn dod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Rwy’n byw yn yr Alban. Ydy’r Ddeddf yn dal yn gymwys i fi?
Ydy. Mae’r Alban wedi cyflwyno’i deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ei hunan i gynnwys pob corff o fewn cylch gorchwyl Senedd yr Alban. Ond, nid yw swyddfeydd DWP yn yr Alban wedi’u cynnwys o dan ddeddfwriaeth yr Alban. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth y DU yn gymwys i bob rhan o DWP yn yr Alban, yn ogystal â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Beth yw’r Hawliau Mynediad?
Gall unrhyw un (p’un a yw’n unigolyn neu’n gorff corfforaethol fel cwmni preifat) wneud cais am fynediad at unrhyw wybodaeth a gofnodwyd mae`r Adran yn ei dal. Mae hyn yn golygu y gallai pob darn o wybodaeth a ddelir gan DWP gael ei ryddhau ni waeth ar ba ffurf y mae wedi’i gofnodi e.e. ffeiliau papur cofrestredig; dogfennau electronig; llyfrau nodiadau neu gasgliadau amrywiol o bapurau ayb.
Ni ystyrir y rheswm dros y cais, os rhoddir rheswm, wrth benderfynu a gaiff gwybodaeth benodol ei rhyddhau neu’i hatal. Os na roddir rheswm, ni fyddwn yn gofyn i chi pam mae eisiau’r wybodaeth.
Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael gwybod a yw`r wybodaeth y mae ei heisiau arnoch yn bodoli ai peidio, ond mae hyn eto’n amodol ar eithriadau penodol.
Gallwch bennu’r ffurf rydych chi am dderbyn y wybodaeth ynddi e.e. copi, crynodeb neu weld y cofnod ei hun. Bydd DWP yn ceisio bodloni’ch cais.
Mae’r Ddeddf yn gwbl ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ofyn am unrhyw wybodaeth a ddelir gan DWP waeth pa mor hen ydyw. Er enghraifft, gellir gwneud cais am ddogfen a luniwyd ym 1999 o dan ddarpariaethau mynediad at wybodaeth y Ddeddf, er na ddaeth y darpariaethau hynny i rym nes 1 Ionawr 2005.
A gaf i ofyn am wybodaeth amdanaf i fy hun o dan Ryddid Gwybodaeth?
Mae’n bwysig i chi gofio nad yw Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn i ddarparu gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun. Caiff ceisiadau o’r fath eu trin o dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 o hyd.
Sut ydw i’n gwneud cais am wybodaeth?
Mae’n rhaid i’ch cais am wybodaeth:
- fod yn ysgrifenedig
- bod ar ffurf barhaol (gan gynnwys e-bost a ffacs)
- rhoi’ch enw i ateb iddo
- rhoi cyfeiriad at ddibenion gohebu (byddai cyfeiriad e-bost yn dderbyniol)
- disgrifio’r wybodaeth rydych yn gwneud cais amdani gymaint ag y gallwch.
 phwy dylwn i gysylltu i ofyn am wybodaeth?
Mae DWP yn sefydliad mawr a rhan fawr o’n gwaith beunyddiol yw darparu gwybodaeth i’r amrywiaeth enfawr o bobl sy’n defnyddio`n gwasanaethau neu sydd â diddordeb ynddyn nhw. Mae hyn yn golygu y caiff llawer iawn o wybodaeth ei darparu’n rheolaidd ac yn ddiofyn eisoes.
Yn y lle cyntaf, dylech fynd at y swyddfa leol sydd fel arfer yn delio â’ch cais neu â chysylltiad arall sydd gennych â’r Adran. Os na allant hwy ateb y cais, byddant yn ei drosglwyddo i’r rhan briodol o DWP.
Am ba mor hir dylwn i aros am ateb?
Dylai ateb gael ei anfon atoch cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os yw’ch cais yn gymhleth, efallai y bydd angen mwy nag 20 diwrnod gwaith arnom, ond os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn y cyfnod 20 diwrnod gwreiddiol a byddwn yn rhoi gwybod i chi’n rheolaidd am gynnydd eich cais.
Allwch chi wrthod rhoi’r wybodaeth rwy`n gofyn amdani i mi?
Mae’r Ddeddf yn cynnwys sawl eithriad i’r hawl i fynediad at wybodaeth.
Mae’n rhaid ystyried y rhan fwyaf o eithriadau mewn dau gam:
- yn gyntaf, a yw’r eithriad yn gymwys i’r holl wybodaeth y gwneir cais amdani, neu i ran ohoni’n unig, ac os ydyw,
- oes budd i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth sy’n fwy nag a fyddai o’i hatal?
Fodd bynnag, mae rhai mathau o wybodaeth yn dod o dan yr hyn a elwir yn eithriad ";absoliwt";. Yn yr achosion hyn, nid oes angen ystyried a oes budd i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Beth fydd yn digwydd os na rowch chi’r wybodaeth y mae ei heisiau arnaf i mi?
Anfonir llythyr atoch yn esbonio pam nad yw’r wybodaeth yn cael ei hanfon atoch. Bydd y llythyr hwn yn esbonio pa eithriadau sydd, yn ein barn ni, yn gymwys i’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Hefyd, byddwn ni’n esbonio pam mae`r eithriad hwn yn gymwys.
Ai dyna ddiwedd y mater?
Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn esbonio pam nad yw’r wybodaeth yn cael ei hanfon atoch. Bydd y llythyr hwn yn esbonio’r eithriad y credwn sy’n berthnasol i’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Byddwn hefyd yn esbonio pam mae’r eithriad hwn yn briodol a beth yw eich hawliau apêl, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Oes terfyn amser i chi ddod yn ôl ata i?
Ein nod yw delio â’ch adolygiad cyn pen 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad y daw eich cais i law. Os na fyddwn ni’n gallu diwallu`r terfyn amser hwn, byddwn ni’n cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod i chi pryd gewch chi ymateb llawn.
 phwy ydw i’n cysylltu i ofyn am adolygiad?
Dylech gysylltu â’r person a ysgrifennodd atoch gyda’r ymateb i’ch cais. Bydd y person hwnnw’n sicrhau y caiff y papurau sy’n berthnasol i’ch cais eu trosglwyddo i’r person priodol i ailystyried eich cais.
Beth os ydw i`n dal yn anfodlon?
Os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ôl i ni ystyried eich cais eto, gallwch ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i’r modd y cafodd eich cais ei drin. Swyddog annibynnol yw’r Comisiynydd a benodir gan EM y Frenhines ac sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd. Gall y Comisiynydd weld yr holl bapurau sy’n ymwneud â’ch cais a phenderfynu a yw’n penderfyniad yn deg ac yn bodloni gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd yn:
Information Commissioner`s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Ffacs: 01625 524 510
http://www.informationcommissioner.gov.uk
Os hoffech ragor o wybodaeth am y modd y mae DWP yn gweithredu’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gallwch gysylltu â Charles Cushing yn y cyfeiriad isod. Fodd bynnag, sylwch fod Charles yn gweithio mewn uned Bolisi, ac nid oes ganddo fynediad at gofnodion na phapurau achos cwsmeriaid neu gleientiaid unigol yr adran.
Charles Cushing
Department for Work and Pensions
Information and Devolution Policy
Adjudication and Constitutional Issues Policy Division
Freedom of Information and Data Protection
2nd Floor, The Adelphi
1 - 11 John Adam Street
Llundain
WC2N 6HT
Ffôn: 020 7962 8581
Ffacs: 020 7962 8725
e-bost: freedom-of-information-request@dwp.gsi.gov.uk