Gwasanaethau a
budd-daliadau

Pensiynau ac ymddeol

Mae`r Adran yn gyfrifol am ystod o fudd-daliadau a gwasanaethau i bensiynwyr a phobl sy’n cynllunio’u pensiynau. Dewiswch faes o`r rhestr isod sy`n berthnasol i chi, ac edrychwch i weld a oes modd i chi dderbyn unrhyw un o`r budd-daliadau neu`r gwasanaethau. Os na allwch ddod o hyd i`r wybodaeth y mae ei hangen arnoch, gwiriwch y rhestr A-Y neu defnyddiwch y teclyn chwilio.

Gwybodaeth bwysig i gyplau un rhyw neu bartneriaid sifil sy`n hawlio budd-dal.

Cynghorydd budd-daliadau

Atebwch gwestiynau i ganfod gwybodaeth am fudd-daliadau a chredydau treth y gallech fod â hawl i’w cael.

Pensiynwyr a phobl sy’n cynllunio’u pensiynau

Budd-daliadau a gwasanaethau DWP

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn wasanaeth penodedig ar gyfer pensiynwyr y presennol a’r dyfodol. (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Y Gwasanaeth Pensiwn)

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu gwasanaeth integredig i bobl o oedran gweithio. (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Y Ganolfan Byd Gwaith)

Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn cefnogi pobl anabl a’u gofalwyr, p’un a ydynt yn gweithio ai peidio.

Mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn gyfrifol am gynnal y system cynnal plant. (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Yr Asiantaeth Cynnal Plant)

brig y dudalen

Cysylltiadau defnyddiol

Newidiadau arfaethedig i bensiynau

Nod y Llywodraeth yw cynyddu diogelwch eich pensiwn cwmni ac ehangu’ch dewisiadau o ran pryd y byddwch yn ymddeol. Dysgwch fwy am gynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau.

Age Positive

Mae’r Llywodraeth yn ceisio newid agweddau tuag at oedran. Mae gwefan Age Positive yn cynnig arweiniad i annog cyflogwyr i roi terfyn ar wahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle, ac i roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i bobl. Ewch i wefan Age Positive

Link-Age

Mae`r cyhoeddiad `Link-Age: developing networks of services for older people`, yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r ymrwymiad ym maniffesto 2001 i ddatblygu `gwasanaethau`r drydedd oes`. Dysgwch fwy am Link-Age

Directgov

Gwefan Directgov yw’r prif gyrchfan ar gyfer gwasanaethau a gwybodaeth a ddarperir gan y Llywodraeth. Mae’r adran Dros 50 yn berthnasol i bobl sy’n tynnu at oedran pensiwn yn ogystal ag i bensiynwyr. Ewch i wefan Dros 50 Directgov

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.