Canolfan adnoddau

Oes Cyfle - Cyfle a sicrwydd gydol oes

Oes Cyfle yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Nod y strategaeth yw rhoi gorau i’r ddelwedd o bobl hŷn fel pobl sy’n dibynnu ar eraill; sicrhau bod bywyd hirach yn iach ac yn llawn; a bod pobl hŷn yn cymryd rhan llawn yn y gymdeithas. Cafodd ei chyhoeddi’n gyntaf yn ‘Oes Cyfle: Ymateb i heriau heneiddio yn yr 21ain ganrif’ ym mis Mawrth 2005.

Cydlynir ac arweinir y strategaeth gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ei rôl fel Eiriolwr dros Bobl Hyn, mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

Mae hefyd yn gosod y camau y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth eu cymryd ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn trefnu ein hunain i gyflenwi’r strategaeth.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiad a chynnydd y strategaeth Oes Cyfle yma, yn ogystal â darllen yr  Adroddiad cyntaf  ar y safle hwn.

Ym mis Gorffennaf 2008, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n adnewyddu ei strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Rhoddir mwy o wybodaeth ar y wefan hon wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen. Un o rannau cyntaf y broses adnewyddu yw cyhoeddi’r papur trafod a chynnal cyfres o ddigwyddiadau trafod cyhoeddus.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.