Canolfan adnoddau

Llawn Bywyd

Full of life

Mae pobl yn byw’n hirach. Erbyn 2020, bydd hanner poblogaeth y DU yn 50 oed a throsodd. Daw hyn newidiadau sylfaenol i natur cymdeithas ac mae’r Llywodraeth am sicrhau y byddwn yn addasu’n llwyddiannus i’r newidiadau hyn.

Sialens hirdymor yw hwn a bydd angen cymorth pawb arnom.

O dan y faner Llawn Bywyd, mae’r Llywodraeth a grwpiau cefnogol eraill yn ymgymryd â rhaglen eang o weithgareddau i godi proffil y materion ynghylch pobl hyn a’n cymdeithas sy’n heneiddio. Bydd Diwrnod Pobl Hyn yn y Deyrnas Unedig yn ffocws allweddol ar gyfer 2008..

Diwrnod Pobl Hyn yn y Deyrnas Unedig 2008

Cynhelir Diwrnod Pobl Hyn yn y Deyrnas Unedig 1 Hydref 2008. Prif nodau’r diwrnod fydd:

Cymerwch ran

Bydd dathlu Diwrnod Pobl Hyn y DU yn gyfle gwych i ddod a’ch cymuned at ei gilydd a meithrin cydberthnasau newydd gyda phobl o bob oedran. Bydd digwyddiadau ledled y wlad ac rydym yn eich annog i gymryd rhan.

I’ch helpu i ddechrau, rydym wedi datblygu’r Pecyn Gwybodaeth Llawn Syniadau sy’n cynnwys dewis o syniadau digwyddiadau ‘parod’ yn seiliedig ar thema eleni o ddod â chenedlaethau at ei gilydd i hybu well dealltwriaeth a pharch. Yn ogystal mae llawer o adnoddau ychwanegol i’ch helpu i ddathlu bywydau pobl hyn ac i ymestyn ar draws y cenedlaethau i annog pobl ifanc a phobl hyn i fyw a dysgu gyda'i gilydd.

Bydd y rhain yn eich helpu i gynllunio eich digwyddiad o’r dechrau i’r diwedd!

Defnyddiwch hunaniaeth weledol Llawn Bywyd

Mae’r Rhan Un o hunaniaeth weledol Llawn Bywyd ar gael ar-lein. Mae’n eich cyflwyno i’r hunaniaeth newydd er mwyn i chi allu defnyddio Llawn Bywyd yn eich dulliau cyfathrebu eich hun.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r hunaniaeth weledol hon fel rhan o’ch dulliau cyfathrebu eich hun yn ystod y misoedd i ddod.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.