Diwygio Lles

Diwygio Lles

Mae'r Llywodraeth yn ymrwymedig i adeiladu cymdeithas cryf, iachus a llewyrchus, lle mae gan bawb gyfle i wireddu eu potensial.

Mae'r Llywodraeth am i gymaint o bobl â phosibl i fanteisio ar wobrau gwaith, gan mai gwaith â thâl yw'r llwybr gorau at annibyniaeth, iechyd a lles ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflwyno cyfres o ddiwygiadau i ddiddymu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag gweithio, i’w helpu iddynt ddod o hyd i waith a rhoi cyfrifoldeb a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Rydym hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod gwaith yn llesol. Mae’r polisïau hyn wedi ein helpu i leihau tlodi ymhlith plant a chyflenwi lefel uwch o gyflogaeth.

Ond mae angen gwneud mwy i ddiddymu’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu neu helpu iddynt eu goresgyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fod y sefyllfa economaidd yn anodd.

Y stori hyd yma

Mae diwygiadau’r Llywodraeth wedi cyfrannu at welliant arwyddocaol ym mherfformiad sylfaenol marchnad lafur y DU. Mae cyflogaeth yn parhau i fod ar lefel uwch ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra oddeutu miliwn yn llai na 1997. Rydym wedi:

Ac mae’r gwaith yn parhau. Ym mis Hydref 2008, gwnaethom ddisodli budd-dal analluogrwydd ar gyfer ceiswyr newydd gyda’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n canolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud yn hytrach na’r hyn na allant ei wneud.  Mae’r Ganolfan Byd Gwaith hefyd wedi dechrau treialon sgiliau gwaith, gyda fframwaith cryfach o hawliau a chyfrifoldebau i rieni unigol a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd 2008.

Edrych i’r dyfodol

Mae’r angen i greu cymorth personol i unigolion i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith, a’r cynnydd o ran eu cyfrifoldeb i gael y cymorth hwn yn arbennig o bwysig yn ystod sefyllfa economaidd anodd.  Yn ystod Haf 2008,  ymgynghorodd y Llywodraeth ar gamau nesaf y daith i ddiwygio lles. Gwnaeth y papur gwyrdd Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb cynnig:

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Hydref 2008 a bydd ymateb yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd i ddod.

Gwyliwch dair ffilm fer sy'n archwilio'r camau y mae rhai o'n cwsmeriaid wedi eu cymryd er mwyn cael gwaith ar ôl cyfnod hir o ddiweithdra.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.